DULL
Rhoi'r siwgr, dwr a zest y lemwn mewn sosban a mudferwi'r syrup am 5 munud.
Ychwanegu'r cwrens duon a chochion at y syrup a'u coginio am 2 funud.
Tynnu'r sosban oddi ar y gwres, ychwanegu gweddill y ffrwythau a chymysgu'n dda.
Hidlo'r ffrwythau dros bowlen fawr er mwyn cadw'r saws a'r ffrwythau ar wahân.
Rhoi'r bara yn y saws a'i gorchuddio â sudd cyn ei ddefnyddio i leinio powlen 3 pheint gyda'r bara. Cofiwch gadw dwy dafell ar gyfer y top.
Rhoi'r ffrwythau yn y bowlen gydag ychydig o'r saws.
Rhoi'r bara ar dop y pwdin ac arllwys mwy o'r saws dros y pwdin.
Gorchuddio'r pwdin â cling ffilm' a rhoi ychydig o bwysau arno (e.e. 2 dun ffrwythau) a'i adael i sefyll yn yr oergell dros nos.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley