dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
CASEROL SOSEJ, BACWN A FFA

CASEROL SOSEJ, BACWN A FFA

CATEGORI : CIG AG OFFAL

DIGON I : 4

CYNHWYSION

1 winwnsyn - wedi'i dorri'n fân
6 selsig - wedi torri'n 3-4 darn yr un
2 sleisen o facwn - wedi'u torri'n ddarnau mân
Tun o ffa (o'ch dewis) (flageolet, kidney beans, butter beans)
½ peint o stoc llysiau
Tun o domatos wedi'u torri
Olew yr olewydd
Halen Môn
Pupur du

I weini
Reis neu datws ‘mash'
DULL
Ffrio'r winwns mewn ychydig o olew nes yn feddal. Ychwanegu'r selsig a'u brownio cyn rhoi'r bacwn i mewn.

Ychwanegu'r ffa a'r stoc a'u rhoi yn y ffwrn ar wres o 160'C am tua 20-30 munud. Tynnu allan o'r ffwrn, ychwanegu'r tomatos, halen a phupur a choginio am ryw 15 munud arall.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY