dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
JELI SIAMPÊN

JELI SIAMPÊN

CATEGORI : DIOD

DIGON I : 2

CYNHWYSION

4 haenen o ‘leaf gelatine'
60g o siwgr mân
50ml o siampên
200ml o siampên
75g o ffrwythau'r haf - mefus, mwyar duon, cwrens cochion
Iogwrt Groegaidd
Darn o fintys ffres
DULL
Meddalu'r gelatine mewn powlen o ddw^r oer.

Mewn sosban cynhesu'r siwgr a 50ml o'r siampên, ychwanegu'r gelatine a chymysgu'n dda. Gadael i oeri. (Gallwch roi'r sosban mewn powlen o ddw^r oer i gyflymu'r broses)

Yn defnyddio ‘scales' i'w pwyso, arllwys 30-34ml o'r syrup i mewn i wydr, arllwys gweddill y siampên ar ei ben a chymysgu. Cofiwch adael digon o le yn y gwydr ar gyfer yr iogwrt a'r ffrwythau.

Gadael i oeri yn yr oergell am o leiaf 6 awr.

I weini
Cymysgu llond llaw o'r ffrwythau gyda'r iogwrt a rhoi'r rhain ar ben y jeli.

Rhoi ffrwythau ffres ar ei ben ac o amgylch gwaelod y gwydr a defnyddio'r mintys ffres i addurno.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY