dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
CYRRI CIG OEN CYFLYM

CYRRI CIG OEN CYFLYM

CATEGORI : CIG AG OFFAL

DIGON I : 2

CYNHWYSION

2 Stecen cig oen
2 llwy fwrdd o bowdwr cyrri Madras
25g o fenyn
Olew
2 clôf o arlleg
Darn ½" o sinsir ffres
1 chilli coch
½ llwy de o hadau cwmin
½ llwy de o hadau coriander
4 Pods cardamom
½ ‘Lemon grass' - wedi torri yn fân
1 pupur coch - wedi torri yn giwbiau
1 pupur gwyrdd - wedi torri yn giwbiau
1 winwnsyn - wedi torri yn giwbiau
½ llwy de o bowdwr Garamasala
1 llwy fwrdd o biwri tomato
½ peint o stoc cig oen

I weini
Dyrned o goriander ffres
Iogwrt Groegaidd
Reis Basmati

SAWS IOGWRT
Pot o iogwrt naturiol
1 tomato - wedi torri'n giwbiau
¼ darn o giwcymbr - wedi torri'n giwbiau
Dyrned o fintys ffres - wedi torri'n fan
Dyrned o basil ffres - wedi torri'n fan
DULL
Rhwbio'r powdwr cyrri i mewn i'r cig. Ffrio nes yn frown ar bob ochr mewn menyn ac olew. Tynnu'r cig allan a'i roi ar blât.

Mewn pestl & mortar neu mewn powlen, malu'r garlleg, chilli a'r sinsir yn bâst. Ychwanegu'r hadau cwmin, cardamom a'r hadau coriander, eu malu a'u cymysgu gyda gweddill y pâst.

Mewn ffreipan ag ychydig o olew, ffrio'r pâst am tua 2 funud. Ychwanegu'r lemon grass, ei ffrio gyda'r pâst ac yna'r pupur coch, pupur gwyrdd a'r winwnsyn a'u choginio nes yn feddal. Yn olaf y powdwr garamasala, a'u coginio am tua2 funud cyn rhoi'r piwri tomato a'r stoc i mewn, eu mudferwi am 5 munud.

Rhoi'r cig i mewn i'r saws a'i fud ferwi am tua 10 munud. Tynnu'r cyrri oddi ar y gwres a chymysgu'r coriander a'r iogwrt i mewn cyn gweini.

SAWS IOGWRT
Cymysgu'r cynhwysion i gyd mewn powlen a'u gweini gyda'r cyrri.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY