dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
COCTEL CORGIMWCH

COCTEL CORGIMWCH

CATEGORI : CYRSIAU CYNTAF, PRYDAU AR YR OCHR A BYRBRYDAU

DIGON I : 4

CYNHWYSION

300g/8 owns o gorgimwch
½ letys ‘Iceberg' -wedi'i sleisio'n fân
8 sleisen o giwcymbr
1 tomato - wedi torri yn 8 darn
1 lemwn - wedi torri yn 8 darn
Dyrned o bersli ffres - wedi torri'n fân
8 crevette
Parprica

Y Saws
½ Jar o Mayonnaise
2 lwy fwrdd o hufen curo - wedi'i guro
1 llwy fwrdd o saws coch (Heinz)
½ llwy fwrdd o frandi (Cognac)
½ llwy fwrdd o saws Worcester
DULL
Mewn powlen, cymysgu'r mayonnaise gyda'r hufen, saws coch, brandi a saws worcester.
Rhannu'r letys rhwng pedwar gwydr neu ddysgl addas.
Rhannu'r corgimwch yn gyfartal ar ben y letys.
Rhoi llwyed dda o saws ar ben y cimwch.

I weini - addurno'r coctel cimwch gyda 2 ddarn o giwcymbr, darn o lemwn a thomato, ychydig o baprica a phersli a crevette ar yr ochr.

Gallwch hefyd ddefnyddio hanner afacado aeddfed fel dysgl i weini'r corgimwch.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY