dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
CACEN CNAU RHOST

CACEN CNAU RHOST

CATEGORI : PRYDAU LLYSIEUOL

DIGON I : 6

CYNHWYSION

Y Gacen
2 lwy fwrdd o olew blodau'r haul
2 winwnsyn - wedi torri'n fân
2 clôf o arlleg - wedi torri'n fân
2 domato - y croen wedi'i dynnu ac wedi torri'n fân
350g o gnau cymysg
2 lwy fwrdd o bersli ffres
1 llwy de o saets ffres - wedi torri'n fân
50g o friwsion bara brown
2 wy- wedi'u curo
Halen a phupur du

Y Saws
20g o fenyn
2 shallot - wedi'i dorri'n fân
½ cenhinen - wedi'i golchi a thorri'n fân
Olew yr Olewydd
290ml o Stoc Cyw Iâr neu lysiau
Bwnsied o berwr y dwr (watercress) wedi'i golchi
1 twb bach o Crème fraiche neu hufen sur
Halen a phupur
DULL
Cynhesu'r ffwrn i 180º/ Nwy 4.
Iro tun ‘loaf' (675g) gyda ychydig o fenyn wedi toddi.

Y gacen
Cynhesu'r olew mewn padell ffrio fawr a choginio'r winwns, garlleg a'r tomatos nes yn feddal.
Mewn powlen fawr, cymysgu'r cynhwysion cynnes o'r badell gyda'r cnau, perlysiau a'r briwsion bara a'u cymysgu'n dda.
Cymysgu'r wy i mewn ac ychydig o halen a phupur i flasu.
Trosglwyddo'r cyfan i'r tun pobi, eu pobi yn y ffwrn am 45 munud.

Y saws
Mewn ffreipan toddi'r menyn a'r olew, meddalu'r shallot a'r cenhinen a'u coginio am ryw 5 munud. Ychwanegu hanner y berwr y dwr a'r stoc a'i adael i mudferwi nes bod y cyfan wedi'i leihau i hanner.
Ychwanegu'r crème fraiche a halen a phupur,ei gymysgu yn dda.
Rhoi'r cyfan gyda gweddill y berwr y dwr i beiriant hylifo a'i chwyrlio yn saws llyfn.

Gweini darn o'r gacen gyda llwyed o'r saws.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY