dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
CRÊPES SUZETTE

CRÊPES SUZETTE

CATEGORI : PWDIN A MELYSION

DIGON I : 4

CYNHWYSION

Y crempogau
125g/4owns o flawd plaen
pinsied o halen
2 wy
315ml/10fl oz o laeth
3 llwy de o fenyn- wedi toddi
Olew llysiau i goginio

Y saws
90g/3oz o fenyn heb halen
90g/3oz o siwgr ‘icing'
9 llwy de o sudd oren
3 llwy de o sudd lemwn
6 llwy de o liqueur oren (grand marnier)
3 llwy de o frandi
Darnau o oren i weini
DULL
Y crempogau
Hidlo'r blawd a'r halen i fowlen digon o faint.
Gwneud pant bach yn y canol, ychwanegu'r wyau ag ychydig o'r llaeth.
Eu curo yn dda, er mwyn cymysgu'r blawd cyn ychwanegu gweddill y llaeth a'r menyn.

Cynhesu ychydig o olew mewn padell.
Arllwys digon o gymysgedd i orchuddio gwaelod y badell.
Eu coginio am ryw funud, nes yn frown golau, eu troi i goginio'r ochr arall.
Plygu pob crêp yn chwarter a'u cadw yn gynnes nes bydd y gymysgedd wedi'i ddefnyddio i gyd.

Y Saws
Mewn ffreipan cynhesu'r menyn, siwgr, y sudd oren a'r sudd lemwn nes bydd y menyn wedi'i doddi a'r sudd fel ‘syrup'.
Ychwanegu'r liqueur.
Rhoi'r crempogau yn y badell gyda'r saws.
Arllwys y brandi a chynnau tân (flambé).

I weini - darnau o oren a digon o saws.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY