dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
CYW IÂR WEDI'I STWFFIO A CHAWS GORAU GLAS

CYW IÂR WEDI'I STWFFIO A CHAWS GORAU GLAS

CATEGORI : POWLTRI A GÊM

DIGON I : 2

CYNHWYSION

2 Brest Cyw Iâr
50g o Gaws Gorau Glas
Croen 1 Lemwn
Halen Môn
Pupur Du
1 Melynwy

Y Saws
¼ winwnsyn - wedi torri'n fân
Dyrned o Basil ffres - wedi torri'n fân
25g o fenyn
Croen Lemwn
½ peint o Stoc Cyw Iâr
50 ml o Hufen curo
I weini - asparagus ffres
DULL
Rhoi'r cyw Iâr rhwng 2 ddarn o ‘cling ffilm' a'i pwno i greu ‘escalope'.

Torri'r caws a'i cymysgu â chroen y lemwn, melynwy Wy, halen a phupur i greu llenwad.
Rhoi ychydig o'r llenwad ar yr ‘escalope' a rholio'r cig o'i hamgylch i greu parsel.
Ei Lapio mewn ‘cling ffilm' a'i stemio am 10 munud.

Y saws
Cynhesu'r badell ffrio a thoddi'r menyn, ffrio'r winwns cyn ychwanegu'r stoc ai lleihau. Yna ychwanegu'r Croen lemwn a'r hufen a dod â'r cyfan i'r berw i greu saws trwchus.
Yn olaf, ychwanegu'r basil a'i cymysgu'n dda.

Cyn gweini, tynnu'r ‘cling ffilm' a brownio'r cyw iâr mewn padell boeth, ei dorri yn sleisys trwchus a'i weini gyda llwyed o saws.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY