DULL
Cadw'r dwr o'r madarch sych ar gyfer stoc y saws nes ymlaen.
Cynhesu'r Padell ffrio, ychydig o fenyn a halen a phupur dros y cig.
Eu coginio am ryw ddwy funud ar y ddwy ochr.
Os i chi am y cig wedi coginio mwy fe fydd angen mwy o amser.
Tynnu'r cig o'r badell i orffwys.
Yn yr un badell, cynhesu'r menyn a meddalu'r sialóts a'r madarch.
Ychwanegu joch o win Madeira a gwydred o win gwyn, gadael i ffrwtian am ychydig.
Ychwanegu'r stoc cig eidion a stoc y madarch.
Yna eu hidlo i greu saws llyfn.
Yn olaf ychwanegu'r morels a joch o hufen a'I cynhesu trwyddo.
Llwyo'r saws dros y cig i weini.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley