dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
SAMOSAS MADARCH

SAMOSAS MADARCH

CATEGORI : PRYDAU LLYSIEUOL

DIGON I : 4 - 6

CYNHWYSION

225g/½pwys o fadarch
2 winwnsyn - wedi eu torri'n fân
2 ewin o arlleg
bwnsied o daragon
½ potel o win gwyn
bwnsied o gennin syfi
paced o does ffilo
50g/2owns o fenyn - wedi toddi
100g/4owns o gaws mascarpone
DULL
Toddwch y menyn mewn ffreipan ac ychwanegwch y winwns a choginiwch hwy. Ychwanegwch y madarch a rhowch gaead ar y sosban a lleihewch. Ychwanegwch y gwin gwyn a lleihewch eto.

Toes Ffilo:
Bydd yn rhaid i chi weithio'n gyflym gyda'r toes arbennig yma neu fe sychith y toes. Brwsiwch fenyn dros dair haenen o does filo ac yna torrwch yn stribedi. Rhowch lwyaid o'r gymysgedd yng nghanol y toes, ychydig o gaws mascarpone a dail tarragon ar ei ben. Plygwch y toes i greu siapiau amrywiol. I sicrhau sglein a lliw rhowch haenen o fenyn ar eu pennau a choginiwch am 10 munud mewn ffwrn weddol gynnes.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY