DULL
Rhwbio 10g o'r menyn o gwmpas y ddisgyl a'i gorchuddio gyda haenen (20g) o'r siwgr.
Gwneud yn siwr fod yr afalau yn lân yna'u gosod yn gyfan ar din pobi. Brwsio ychydig o fenyn drostynt a chawod o siwgr mân, eu Pobi yn y ffwrn am 25 munud ar 180°C / nwy 4.
Mewn sosban dod â'r llaeth, 60g o'r siwgr a'r vanilla i'r berw cyn ychwanegu'r semolina a'r sultanas a'u cymysgu'n dda. Eu mud ferwi am 5 munud nes bod y gymysgedd yn tewhau ei gymysgu yn dda i arbed lympiau.
Mewn bowlen curo'r gwyn Wy nes iddo dewhau, yna ychwanegu'r siwgr fesul tipyn er mwyn gwneud meringue.
Curo y melynwy a'i arllwys fesul tipyn at y semolina a'i curo yn dda. Curo ¼ o'r gwynwy I mewn I'r semolina yna yn ofalus plygwch y gwynwy i gyd I mewn I'r gymysgedd. Arllwyswch y gymysgedd I'r bowlen sydd wedi ei pharatoi yna eisteddwch yr afalau I mewn I'r gymysgedd. Pobwch yn y ffwrn am 25 munud ar 180°C.
Y saws
Toddi'r siwgr mewn sosban gyda'r sudd afal a'i cadw yn gynnes. Curo'r melynwy yn dda nes iddo dreblu mewn maint. Arllwys y sudd afal yn araf i mewn i'r wyau gan
gymysgu yn gyson. Eu gadel i oeri (fe ddylai'r gymysgedd fod yn drwchus). Plygu'r hufen i mewn i'r gymysgedd a'i weini gyda'r pwdin.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley