dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
CREGYN GLEISION GYDA SEIDR A MADARCH

CREGYN GLEISION GYDA SEIDR A MADARCH

CATEGORI : PYSGOD A BWYD MÔR

DIGON I : 4

CYNHWYSION

2 kilo o gregyn gleision y Fenai - wedi'i glanhau
1 winwnsyn - wedi'i torri'n fân
2 clôf o arlleg
2 becyn (500g) o fadarch wystrys - wedi eu sleisio
1 gwydred (1/2 peint) o seidr sych
1 darn o saffrwm - wedi socian yn y seidr
Dyrned o bersli ffres
Llond llaw o syfi ffres - wedi torri'n fân
5og o fenyn
15ml-20ml o hufen curo
Darn o lemwn - i weini
DULL
Mewn sosban digon o faint i ddal y cregyn gleision i gyd, cynhesu hanner y menyn a meddalu'r winwns a'r garlleg. Arllwys y saffrwm a'r seidr i'r sosban a dod â'r cyfan i'r berw dan gaead. Eu gadael i ffrwtian am ychydig i leihau'r saws.

Mewn padell ffrio, meddalu'r madarch yn y menyn nes yn frown golau a'u rhoi i'r ochr am y tro.

Ychwanegu'r cregyn i'r sosban a rhoi caead ar eu pen. Eu coginio am tua 2/3 munud. Wrth i'r cregyn ddechrau agor, ychwanegu'r perlysiau a'r hufen.
Yn olaf, ychwanegu'r madarch at y cregyn, eu cymysgu'n dda a'u gweini'n syth.

Gweini gyda sudd lemwn

TIP:
Os ydy'r cregyn gleision ar gau mae nhw'n rhai iach i'w bwyta.
Rhowch ‘tap' i'r rhai sydd ar agor ac os ydynt yn cau - gallwch fwyta'r rheini hefyd. Os na, i'r bin a nhw yn syth.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY