DULL
Mewn padell digon o faint, meddalu'r winwns, y pupur coch a'r pupur melyn yn yr olew. Ychwanegu'r teim a chroen oren a choginio'r cyfan cyn ychwanegu halen a phupur i flasu.
Cymysgu ychydig o groen oren gyda'r halen Môn a'i daenu dros y pysgod.
Rhoi'r pysgod ar ben y gymysgedd winwns, gorchuddio'r badell â ffoil' a'i bobi yn y ffwrn ar wres o 180C am 15 munud.
Y Saws
Mewn sosban fach, cynhesu'r gwin, dwr a'r shibwns, eu lleihau a'u rhoi i'r ochr am y tro.
Curo'r melynwy gyda'r dw^r mewn powlen wydr a'i gynhesu dros sosban o ddw^r berwedig. Wrth iddo dewhau, ychwanegu'r menyn fesul dipyn nes i'r saws dewhau.
Yn olaf, ychwanegu'r gymysgedd shibwns at yr wy, pinsied o halen, pupur cayenne ac ychydig o ddail taragon.
Gweini'r pysgodyn gyda llwyed o'r saws.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley