DULL
Mewn ffreipan, cynheswch yr olew a ffriwch y winwns a'r garlleg a'u brownio'n ysgafn. Ychwanegwch y chilli a'r piwre tomato a'u coginio nes yn liw coch cyfoethog. Ychwanegwch y tomatos ac ychydig o halen i flasu, gadewch i leihau am ryw 5 munud. Coginiwch y sbageti mewn digonedd o ddwr berw am ryw 8-10 munud. Mewn ffreipan arall twymwch olew olewydd a ffriwch y darnau o gyw iar. Ychwanegwch halen a phupur i flasu. Ychwnegwch y sbageti at y cyw iar, yna'r saws arabiata a chymysgu'r cyfan yn dda. I orffen cymysgwch ddail Basil wedi eu rhwygo'n fân a darnau o gaws parmesan.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley