dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
CAWL MADARCH

CAWL MADARCH

CATEGORI : CAWL

DIGON I : 4

CYNHWYSION

450g/1pwys o fadarch - wedi'u sleisio
2 winwnsyn - wedi'u torri'n fân
2 ewin o arlleg - wedi'u malu
1 sbrigyn o daragon
1 gwydraid o win gwyn
50g/2owns o fenyn
1.1ltr/2beint o stoc llysiau
55ml/2owns hylif o hufen sengl
1 llwy fwrdd o persli ffres
DULL
Toddwch y menyn mewn padell ffrio. Ychwanegwch y winwnsyn a'r garlleg a'u coginio am ychydig.
Ychwanegwch y madarch a'u ffrio am ychydig (rhowch glawr ar y badell ffrio er mwyn cyflymu'r broses goginio ac i gadw'r madarch yn wyn).
Ychwanegwch y gwin a'i leihau cyn ychwanegu'r stoc a'i fudferwi am 15 munud. Ychwanegwch y taragon a'r hufen a'i adael i ffrwtian am 2 funud. Gadewch iddo oeri am ychydig cyn ei hylifo i greu cawl llyfn.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY