dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
PWDIN PÎN-AFAL

PWDIN PÎN-AFAL

CATEGORI : PWDIN A MELYSION

DIGON I : 6

CYNHWYSION

1 pÎn-afal ffres
100g o siwgr brown meddal
100g o fenyn
50ml o rym tywyll
I Weini
Iogwrt Groegaidd 'Rachel's'
Mintys ffres
DULL
Tynnu'r croen oddi ar y pîn-afal a'i haneru. Torri y darn caled yng nghanol y ffrwth allan. Torri'r ffrwyth yn dafelli eithaf trwchus - tua 5 tafell o bob hanner.

Mewn sosban dros wres isel, toddi'r menyn a'r siwgr gyda'r rym, cymysgu'n dda a'u rhoi i'r ochr.

Gyda brwsh toes, taenu ychydig o'r rym dros y pîn-afal a choginio ar y BBQ am ychydig funudau ar bob ochr.

I weini - llwyed o iogwrt a darn o fintys ffres.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY