DULL
Socio'r ffyn pren mewn dwr am tua awr i'w harbed llag llosgi pan yn coginio.
Cymysgu'r garlleg, sinsir a'r Nam pla gyda'i gilydd a'u rhoi dros y stribedi o gig, a'u cadw yn
yr oergell am 1-2 awr.
Y Saws
Cynhesu'r olew mewn sosban, meddalu'r shibwns, garlleg, chili a'r sinsir.
Cymysgu'n dda cyn ychwanegu'r holl gynhwysion eraill. Eu gadael i fud ferwi am tua 10 munud cyn tynnu'r ddeilen Kaffir allan - mae'r saws yn barod nawr.
Rhoi'r stribedi o gig ar y ffyn pren a'u coginio ar y ddwy ochr ar BBQ cynnes.
Eu gweini gyda'r saws mewn powlen wrth ei ochr.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley