DULL
Golchi'r bulgar wheat ddwy waith a'i roi mewn powlen a'i orchuddio gyda digon o stoc. Gadael i sefyll am 15-20 munud, nes bydd y stoc wedi treiddio drwy'r bulgar wheat.
Ei roi i'r ochr i oeri ychydig.
Torri'r ciwcymbr yn chwarteri ar eu hyd gan wared yr hadau, yna eu torri'n ddarnau bach a'u rhoi mewn powlen lân.
Torri'r tomatos yn giwbiau a'u hychwanegu at y ciwcymbyr. Yna'r perlysiau, y shibwns a'r sudd lemwn.
Pan fydd y bulgar wheat wedi oeri digon, cymysgu gyda'r llysiau a'i weini.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley