dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
TAGINE CIG OEN GYDA FENNEL A PERLYSIAU

TAGINE CIG OEN GYDA FENNEL A PERLYSIAU

CATEGORI : CIG AG OFFAL

DIGON I : 4

CYNHWYSION

2 llwy fwrdd o olew yr olewydd
1 winwnsyn coch - sleisio'n fan
1 fennel - sleisio'n fan
¾ kg (1½ pwys) o fillet cig oen - wedi torri'n ddarnau bras
1 llwy de o bowdwr sinsir
2 llwy de o bowdwr cumin
2 llwy de o bowdwr coriander
¼ llwy de o bupur cayenne
¼ llwy de o halen
150g o ddatys - wedi torri
500ml o ddwr
I weini - dyrned o goriander ffres
DULL
Cynhesu llwy fwrdd o olew yn y tagine, brownio'r winwns, fennel a'r garlleg a'u gosod ar blât.

Rhoi gweddill yr olew yn y badell a brownio'r cig oen.

Ychwanegu'r sbeisys a'r halen i'r cig a'u cymysgu yn dda am ryw funud.

Rhoi'r llysiau yn ôl yn y tagine gyda'r cig, y datys a hanner y dwr eu cymysgu'n dda.

Rhoi'r caead am ben y tagine a choginio ar wres cymedrol am 2-2½ awr.

Yn ystod y broses coginio ychwanegu gweddill y dwr, eu cymysgu'n dda.

I weini- dyrned o goriander ffres.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY