dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
TARTEN GAWS, TOMATO A BASIL

TARTEN GAWS, TOMATO A BASIL

CATEGORI : PRYDAU LLYSIEUOL

DIGON I : 4

CYNHWYSION

150ml/¼peint o laeth
150ml/¼peint o hufen
1 melyn wy
1 winwnsyn - wedi ei dorri'n fân
4 tomato
dyrned o fasil
halen a phupur
225g/½pwys o gaws - wedi'i gratio
110g/4owns o hufen curo
2 wy
DULL
Rholiwch y toes i hirsgwar a thorrwch yn hanner (digon i wneud 2 darten). Er mwyn sicrhau fod yr ochrau yn glynu wrth goginio, rhowch ychydig bach o wy dros yr ochrau cyn ei blygu. Adeiladwch waliau o amgylch ymyl y toes er mwyn sicrhau nad yw'r llenwad yn dod allan. Gwnewch dyllau bach yn y toes (er mwyn arbed y toes rhag codi yn y ffwrn) gan fod yn ofalus i beidio â gwneud tyllau rhy fawr fydd yn gwneud i'r cynnwys lifo allan!

Llenwad o Winwns, Tomatos a Basil Ffres:
Rhowch haenen o winwns, tomatos a basil ar y toes gan orffen gyda'r caws. I 'glymu'r' cynhwysion gyda'i gilydd cymysgwch 2 wy gyda 1/4 peint o hufen curo, ychydig o bupur du ac arllwyswch yn ofalus i'r darten. Rhowch yn y ffwrn am 10-15 munud ar wres o 180°C.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY