DULL
Cynhesu'r olew mewn dysgl caserol fawr, coginio'r Pancetta a'r porc am ryw 5 munud.
Ychwanegu'r winwns, moron, helogan, pupur coch a'r garlleg a'u meddalu am ryw 10 munud.
Ychwanegu'r madarch at y caserol a'u coginio am 5 munud, cyn ychwanegu'r piwrî tomato, y gwin coch, y stoc a'r rhosmari ffres a dod â'r cyfan i'r berw.
Yn olaf, ychwanegu'r ffa cannellini a'r tomatos i'r caserol, eu mud ferwi am 15 munud ar y stôf.
Rhoi yn y ffwrn ar wres o 180' am 45 munud.
Cyn gweini'r caserol, ychwanegu halen a phupur a'r coriander.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley