dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
CYW IÂR YN Y WOK

CYW IÂR YN Y WOK

CATEGORI : POWLTRI A GÊM

DIGON I : 6

CYNHWYSION

2 llwy fwrdd o olew yr olewydd
25g/1owns o fenyn
6 ‘thigh' cyw iâr, heb y croen - wedi eu torri'n ddarnau bras
2 winwnsyn mawr - wedi torri'n fân
2 chilli coch, heb yr hadau - wedi torri'n fân
2 ewin o arlleg - wedi torri'n fân
2 llwy fwrdd o flawd plaen
400g o domatos tun - wedi torri'n fân
2 llwy fwrdd o biwrî tomato
850ml/1½ peint o stoc llysiau
450g/1pwys o datws newydd bach - wedi haneru
1 butternut squash - wedi plicio, yr hadau wedi eu tynnu a'i dorri'n ddarnau bras
2 gorn ar y cobyn - tynnu'r cnewyll gan ddefnyddio cyllell finiog
175g/60 owns o domatos bach
2 lwy fwrdd o fintys ffres - wedi torri'n fân
2 lwy fwrdd o goriander - wedi torri'n fân
DULL
Cynhesu'r olew a'r menyn mewn Wok a choginio'r cyw iâr am ryw 3-4 munud. Efallai bydd angen gwneud hyn mewn dau gymal.

Ychwanegu'r winwns, chilli a'r garlleg, coginio am ryw 5 munud nes yn feddal.

Cymysgu'r blawd i mewn cyn rhoi'r tomatos, y piwrî, stoc llysiau, tatws a'r ‘butternut squash' yn y wok.

Dod â'r cyfan i'r berw a'u gadael i fud-ferwi am ryw 20 munud.

Rhoi'r cnewyll a'r tomatos bach yn y wok a'u mud-ferwi ar wres isel am 5 munud nes i'r tomatos ddechrau meddalu.

I weini, ychydig o halen a phupur a pherlysiau.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY