dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
CASEROL CIG EIDION

CASEROL CIG EIDION

CATEGORI : CIG AG OFFAL

DIGON I : 4 - 6

CYNHWYSION

675g o gig eidion ‘braising'
2 lwy fwrdd o flawd plaen
1 llwy fwrdd o olew blodau'r haul
8 sialóts wedi'i torri'n hanner
2 ewin o arlleg - wedi sleisio
½ llwy de o bowdwr paprica
300ml o stoc cig eidion
1 llwy de o biwrî tomato
4 tomato ffres - wedi torri'n giwbiau
½ llwy de o nytmeg ffres - wedi'i gratio
1 pupur coch - wedi'i torri'n giwbiau
100g o fadarch bach gwyn - wedi eu torri'n hanner
4 llwy fwrdd o hufen chwerw (sour cream)
Halen a phupur du
DULL
Rhoi ychydig o halen a phupur yn y blawd a rholio'r cig yn y blawd.

Cynhesu'r olew mewn ffreipan a brownio'r cig yna rhoi'r cig i orffwys ar blât.

Yn yr un badell coginio'r sialóts a'r garlleg am ryw 3 munud.

Rhoi'r cig yn ôl yn y badell gyda'r sialóts ac ychwanegu'r paprica a'r piwrî tomato, eu cymysgu'n dda a'u coginio am ryw 3 munud.

Arllwys y stoc i fewn a cymysgu'r cyfan yn dda.

Rhoi'r cyfan yn y ‘Slow Cooker'.

Yn olaf, ychwanegu'r tomatos ffres, nytmeg, pupur coch a'r madarch, a'u coginio am 5 - 7 awr.

Ychwanegu'r hufen cyn gweini.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY