dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
TERRINE CYW IÂR A PHERLYSIAU

TERRINE CYW IÂR A PHERLYSIAU

CATEGORI : CIG AG OFFAL

DIGON I : 10 - 12

CYNHWYSION

1 cyw iâr cyfan - 1.6kg (3lb 4oz)
100g/3½ owns o ham
225g/8 owns o ysgwydd porc
300g/10 owns o veal rump
450g/1 pwys o facwn ‘streaky'
500ml/1 peint o hufen dwbl
1 wy
10ml/4fl owns o Armagnac
3 llwy fwrdd o bersli ffres - wedi torri'n fân
3 llwy fwrdd o syfi (chives) - wedi torri'n fân
2 lwy fwrdd o tarragon - wedi torri'n fân
2 shibwnsyn - wedi torri'n fân
1 llwy fwrdd o fenyn
1 llwy fwrdd o fenyn - wedi toddi
Halen môn a phupur du
DULL
Tynnu'r cyw iâr oddi ar yr esgyrn gan gadw'r ddwy frest yn yr oergell.

Leinio terrine maint 28 x 16 x 6cm, gyda'r bacwn ‘streaky'. Torri gweddill y bacwn a'r cyw iâr yn ddarnau a'u rhoi trwy beiriant prosesu bwyd neu finsydd gyda'r afu cyw iâr, porc, ham a'r veal.

Rhoi'r cig wedi minsio mewn powlen digon o faint, cymysgu'r hufen, wy, a'r brandi i mewn yn dda. Ychwanegu digon o halen (tua 2 lwy de) a phupur.

Cynhesu llwy fwrdd o fenyn mewn sosban fach a choginio'r shibwns am tua 2-3 munud. Eu gadael i oeri ychydig cyn ychwanegu'r perlysiau. Torri'r frest cyw iâr yn stribedi tua 2cm o drwch a'u rolio yn y gymysgedd perlysiau.

Rhoi hanner y gymysgedd cig wedi minsio yn y terrine, haenau o gyw iâr a'i lenwi gyda gweddill y gymysgedd cig.

I orffen, ychydig o facwn ‘streaky' a'u gadael mewn lle oer am 4-6 awr cyn coginio.

Cynhesu'r ffwrn i 200ºC. Rhoi'r terrine mewn ‘bain-marie' a'i goginio am awr. Ei dynnu o'r ffwrn a rhoi pwysau ar y terrine (tua 500g) nes bydd y terrine wedi oeri.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY