DULL
Toes
Rhoi'r blawd ar y bwrdd a gwneud pant yn y canol. Gan ddefnyddio'r bysedd, rhwbio'r menyn nes yn feddal ac yna'i roi yn y pant yn y canol.
Ychwanegu'r siwgr a'r halen a'u cymysgu'n dda cyn ychwanegu'r wyau a chymysgu'r cyfan yn dda. Ychwanegu blawd at y toes bob hyn a hyn i'w arbed rhag glynu at y bwrdd.
Gweithio'r toes gyda'ch llaw nes yn llyfn a'i rolio i belen cyn lapio mewn papur gwrthsaim. Rhoi yn yr oergell am ychydig oriau.
Hufen Almwn
Mewn powlen, meddalu'r menyn gyda spatiwla, cymysgu'r siwgr eisin, cnau almwn a'r blawd ac yna ychwanegu'r wy a chymysgu'r cyfan yn dda - dylai'r gymysgedd fod yn ysgafn. Yn olaf, ychwanegu'r rym. Gorchuddio a'i gadw yn yr oergell. Rhaid tynnu allan 30 munud cyn ei ddefnyddio.
Crème Patissiere
Rhoi'r melynwy a tua 1/3 o'r siwgr mewn powlen a'u chwisgo nes yn olau mewn lliw. Hidlo'r blawd at y gymysgedd a chymysgu'r cyfan yn dda.
Mewn sosban, dod â'r llaeth, gweddill y siwgr a'r pod fanila i'r berw. Eu gadael i oeri ychydig cyn cymysgu gyda'r melynwy.
Surop (1½ peint)
Mewn sosban, dod â'r cynhwysion i gyd i'r berw am 3 munud. Os oes angen, tynnu'r croen oddi ar y top. Rhidyllu'r surop a'i adael nes yn oer cyn defnyddio.
Tarten
Cynhesu ffwrn i wres o 200'/Nwy 7. Taenu ychydig o flawd ar y bwrdd, rholio'r toes i siâp cylch (tua 3mm o drwch). Iro tun fflan a'i eistedd ar dun pobi fflat a gosod y toes yn y tun. Gyda blaen eich bysedd, pinsio ochrau'r toes i greu patrwm bach.
Rhoi yn yr oergell i oeri am tua 20 munud.
Cymysgu'r hufen almwn â'r crème Patissiere gyda'i gilydd, taenu dros y toes. Pobi yn y ffwrn am 30 munud.
*Pan fyddwch yn tynnu'r darten o'r ffwrn, gadewch yn y casyn i oeri. Unwaith mae'r darten wedi oeri ychydig, trosglwyddo i rac weiar.
Oren - i'w addurno
Gan ddefnyddio cyllell cannelizing' tynnu 12 stribed hir, gan dynnu o dop yr oren i'r gwaelod. Torri'r oren yn ei hanner. Torri'r oren yn stribedi tenau - tua 2mm/½ o drwch. Rhoi mewn dysgl ddofn.
Berwi'r surop yna'i arllwys dros y darnau o oren gan ofalu fod pob un wedi'u gorchuddio. Gorchuddio â darn o bapur gwrthsaim. Eu gadael i oeri am 30 munud. Yn ofalus, gwahanu'r darnau oren o'r hylif.
Gosod yr oren mewn siâp cylch gan ddechrau o'r tu allan tuag at y canol.
Cymysgu 6 llwy fwrdd o'r sudd suryp gyda'r jam, lleihau dros wres uchel cyn taenu yn ofalus dros y darnau oren.
Sicrhau nad yw'r darten yn rhy oer cyn gweini (tymheredd ystafell sydd orau).
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley