DULL
Y Nougatine
Meddalu'r siwgr yn y dwr berwedig cyn ychwanegu'r hylif glwcos. Coginio nes i'r gymysgedd droi yn lliw caramel. Ychwanegu'r cnau almwn a chymysgu'r cyfan yn dda.
Iro'r bwrdd gydag ychydig o olew llysiau, tywallt y gymysgedd ar y bwrdd a'i adael i oeri am ychydig.
Rholio i drwch tua 5mm gyda rholbren blastig. Torri i siapau triongl gyda chyllell finiog wedi iro ag ychydig o olew llysiau.
Y Noisettes
Cynhesu'r ffwrn i wres o 240ºC/475ºF/Nwy10, rhostio'r cnau cyll ar dun pobi am tua 3 munud, nes i'r croen ddechrau dod yn rhydd. Tynnu gweddill y croen i ffwrdd o'r cnau a'u rhoi i'r ochr am y tro.
Mewn sosban, toddi'r siwgr yn y dwr a choginio nes cyrraedd tymheredd o 115ºC/240ºF ar themomedr siwgr.Tynnu'r badell oddi ar y gwres, rhoi'r cnau yn y siwgr a chymysgu'n dda. Rhoi'r sosban yn ôl ar wres cymedrol ag ail gynhesu. Dylai'r siwgr droi lliw unwaith yn rhagor ar dymheredd o 165ºC/350º F. Tynnu'r sosban oddi ar y gwres, ychwanegu'r menyn a'i droi yn dda nes i'r menyn doddi. Arllwys y gymysgedd i dun wedi iro gydag olew. Troi'r gymysgedd gyda chyllell fel bod y cnau i gyd yn cael eu gorchuddio.
Gyda'ch bysedd, gwahanu'r cnau a rhoi clwstwr o 3 ar ben pob darn o nougatine. Ac un arall ar eu pen i greu siâp pyramid.
Gosod ar blât i orffwys cyn gorchuddio a siocled.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley