dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
FFILED TORBWT GYDA SCALLOPS

FFILED TORBWT GYDA SCALLOPS

CATEGORI : PYSGOD A BWYD MÔR

DIGON I : 4

CYNHWYSION

Pysgodyn
450g/1lb ffiled o dorbwt - heb y croen, wedi torri'n 4 darn
8 scallop mawr - gyda'r cwrel
1 llwy fwrdd o fenyn heb halen
Sudd lemwn
2 lwy de o olew yr olewydd
Halen a phupur du

Saws
4 shibwnsyn - wedi eu torri'n fân
90g/3owns o fadarch bach gwyn - wedi eu torri'n fân
7 llwy fwrdd o win gwyn sych
2 lwy fwrdd o Madeira sych
40g/1½ owns o fenyn oer heb halen, wedi torri'n giwbiau

LIysiau
2 genhinen fach
90g/3owns o fadarch gwyllt - wedi eu golchi a'u torri'n sleisys tenau
2 lwy de o fenyn heb halen
½ lemwn
4 sbrigyn o chervil
DULL
Scallops
Torri 4 darn 10 cm o ffoil ac iro pob darn â menyn. Torri pob scallop i 3 cylch, eu gosod ar y ffoil mewn cylch wedi eu lapio dros ei gilydd.

Mewn sosban fach, toddi'r menyn, ychwanegu pinsied o halen ac ychydig o sudd lemwn a brwsio dros y torbwt a'r scallops cyn rhoi pinsied da o bupur du. Eu cadw yn yr oergell.

Gwynnu (blanch) cwrel y scallops mewn dwr sy'n ffrwtian am 5 munud cyn eu torri ar eu hyd. Cynhesu olew yr olewydd mewn ffreipan a choginio'r cwrel am ychydig funudau.

Y Torbwt
Cynhesu ffwrn i wres o 180ºC/350ºF/Nwy 4.
Mewn ffreipan, toddi llwy fwrdd o fenyn a meddalu'r shibwns am tua 1 -2 munud, ac yna ychwanegu'r madarch bach. Arllwys y gwin a'r Madeira i'r badell a dod â'r cyfan i'r berw a'u berwi am 2-3 munud, cyn ychwanegu 2 lwy fwrdd o ddwr.
Tynnu'r badell oddi ar y gwres a rhoi'r torbwt ar ben y shibwns a'r madarch. Gorchuddio'r badell gyda ffoil a choginio yn y ffwrn am 6-8 munud, yn ôl trwch y pysgod.

Y llysiau
Golchi a thorri'r bonyn oddi ar y cennin a thynnu'r dail allanol. Gyda chyllell finiog, torri'r genhinen ar ei hyd, ac yna eu torri yn dair cyn sleisio'n stribedi mân. Eu rhoi i'r ochr am y tro. Coginio'r cennin dan gaead mewn 4 llwy fwrdd o ddwr, llwy de o fenyn, pinsied o halen a phupur am tua munud, tynnu'r caead a'u coginio am tua 2-3 munud arall. Berwi 2 lwy fwrdd o ddwr, llwy de o fenyn, pinsied o halen a phupur ac ychydig o sudd lemwn. Cynhesu'r madarch gwyllt am tua 30 eiliad.

Coginio'r scallops
Rhoi'r scallops yn y foil ac yna i stemiwr am tua 2 funud.

Y saws
Rhoi'r sudd o badell y torbwt a'r madarch gwyllt i sosban fach, dod â'r cyfan i'r berw cyn chwisgo'r gymysgedd i'r menyn oer. Eu chwisgo yn dda cyn ychwanegu pinsied o halen a phupur a sudd lemwn i flasu.

Gweini'r torbwt ar blât cynnes gyda'r scallops. Arllwys llwyed o saws dros y pysgod, a gweini llwyed o fadarch a chennin wrth eu hochr yn ogystal â sbrigyn o chervil.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY