dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
PAELLA MURGEZ A CHYW IÂR

PAELLA MURGEZ A CHYW IÂR

CATEGORI : CIG AG OFFAL

DIGON I : 6 - 8

CYNHWYSION

1 llwy fwrdd o olew yr olewydd
675g o gyw iâr - wedi'i dorri'n giwbiau
225g o sosej Murgez (ar gael gan Edwards of Conwy)
100g o borc - wedi'i dorri'n giwbiau
1 winwnsyn - wedi'i dorri'n giwbiau
3 clôf o arlleg - wedi'u torri'n fân
1 pupur coch - wedi'i dorri'n giwbiau
350g o reis Paella
450ml o stoc cyw iâr
Pinsied dda o saffron - wedi'i socian mewn llwy fwrdd o ddwr
4 tomato ffres - heb y croen, wedi'u torri'n giwbiau
50g o ffa Ffrengig
50g o bys ffres
Halen a phupur
DULL
Cynhesu'r olew mewn ffreipan fawr a choginio'r cyw iâr, y porc a'r selsig.
Tynnu nhw allan o'r badell a'u gosod o'r neilltu.

Yn yr un badell, ffrio'r winwns, y garlleg a'r pupur coch am ddwy funud.
Ychwanegu'r reis i'r badell a choginio am ryw ddwy funud cyn ychwanegu'r stoc a'r saffron. Mudferwi am 20 munud.

Pan fydd y reis wedi dechrau meddalu, rhoi'r cig a'r llysiau yn ôl yn y badell a'u cynhesu drwyddo am y pum munud ola' o goginio.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY