dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
PASTAI O GIG EIDION, CARW A CHWRW DU

PASTAI O GIG EIDION, CARW A CHWRW DU

CATEGORI : CIG AG OFFAL

DIGON I : 12

CYNHWYSION

900g/2pwys o garw
1.8kg/4pwys o gig eidion
4 winwnsyn
6 ewin o arlleg
pinsied da o saets sych
2 llwy fwrdd o flawd
3.4litr/6peint o stoc
1½ gwydraid o gwrw du (Guiness)
1.8kg/4pwys o foron
1 gwydriad o win coch
1 gwydriad o port

y crwst:
225g/8owns o flawd plaen
110g/4owns o fenyn
2 wy
halen a phupur
DULL
Browniwch y cig eidion mewn ychydig o olew. Ychwanegwch y cig carw, garlleg a'r winwns a choginiwch y cyfan tan i'r winwns feddalu ychydig. Ychwanegwch y moron a fydd yn rhoi blas melys i'r saws. Rhowch y sage mewn a chymysgwch cyn ychwanegu'r port a gwin coch. Gorchuddiwch y cyfan gyda'r stoc a'r cwrw gan roi ychydig o halen a phupur i mewn. Gadewch i goginio am 1 - 1.5 awr nes bod y cig yn dyner.

Y Crwst:
Cymysgwch flawd a menyn tan eu bod yn briwsioni. Ychwanegwch halen a phupur, curwch yr wyau a'u hychwanegu at y blawd a'r menyn. Cymysgwch y cyfan er mwyn creu toes. Gadewch i orffwys am hanner awr. Rholiwch y crwst allan, rhowch y crwst ar ben y llenwad cig, pinsiwch yr ochrau i'w selio a gwnewch dwll yn y canol.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY