DULL
Rhydyllu'r blawd a'r halen i fowlen cymysgu fawr. Curo'r wy a'r llaeth at y blawd i greu cytew (batter) llyfn.
Cynhesu olew yr olewydd mewn tun addas i'r ffwrn.
Brownio'r sosej am ychydig funudau. Tra bod yr olew yn boeth, arllwys y cytew (batter) i'r tun. Pobi mewn ffwrn cynnes (180') am 25 munud.
Toddi'r menyn mewn sosban a meddalu'r winwns. Ychwanegu'r blawd, eu cymysgu'n dda. Yn olaf, mudferwi'r Madeira a'r stoc nes i'r saws dewhau.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley