dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
FFILED O GIG OEN GYDA SOSEJ

FFILED O GIG OEN GYDA SOSEJ

CATEGORI : CIG AG OFFAL

DIGON I : 2

CYNHWYSION

1 ffiled o gig oen
Olew yr Olewydd
3 sosej cig oen a chennin (Edwards of Conwy yn ddelfrydol) - tynnu'r cig allan o'r sosej
3 sleisen o ham Caerfyrddin
10 tomato bach
2g o bowdwr mwstard
2 goesyn asbaragws - wedi'u torri'n fân
30g o gaws ‘Cheddar'
100g o does Choux
Olew llysiau - i ffrio
Halen a phupur du
I weini - tatws stwnsh, mintys ffres wedi torri'n fân a llwyed o Jus
DULL
Halen a phupur dros y cig oen.

Cynhesu olew mewn ffreipan fawr a choginio'r ffiled o gig oen ar bob ochr i selio'r cig. Tynnu allan o'r badell a'i osod i'r ochr am y tro.

Torri darn o ffoil, gosod yr ham ar y ffoil a'r cig o'r sosej am ei ben cyn lapio'r ffiled yn y sosej a'r ham. Gosod yn ôl yn y badell am ychydig o funudau. Eu coginio yn y ffoil mewn ffwrn cynnes am 15 munud.

Rhoi'r tomatos bach gydag ychydig o olew, halen a phupur ar dun pobi a'u rhostio mewn ffwrn cynnes.

Cymysgu'r caws, mwstard a'r asparagws gyda'r toes Choux gan greu peli bach. Cynhesu llond sosban o olew a ffrio'r peli nes yn frown golau.

I weini – torri'r cig yn sleisys a'i weini ar wely o datws gyda'r peli Choux a'r tomatos rhost ar ochr y plât. I orffen, tywallt llwyed o'r jus dros y cig.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY