DULL
Mewn padell ffrio, browniwch y selsig. Tynnwch hwy allan o'r badell.
Yn yr un badell, ffriwch y winwns, garlleg, seleri, piwrî tomato ac ychydig o halen a phupur a browniwch hwy am ychydig funudau.
Ychwanegwch y gwin coch, rhosmari a'r chillis a gadewch i ferwi nes eu bod wedi lleihau a chreu saws trwchus.
Trosglwyddwch y cyfan i sosban fawr ac ychwanegwch y tomatos, afalau, y stoc a'r gwahanol fathau o ffa a'u cymysgu'n dda. Rhowch y selsig nôl yn y sosban gyda'r bricyll a chymysgwch y cyfan.
Coginiwch y cyfan dan gaead yn araf am awr i awr a hanner.
Gweinwch yn gynnes gyda thatws stwnsh.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley