dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
CACEN SIOCLED

CACEN SIOCLED

CATEGORI : PWDIN A MELYSION

DIGON I : 2

CYNHWYSION

1 cacen siocled ‘swiss rôl'
20ml o ddwr
1 llwy de o sudd lemwn
15g o siwgr mân
15g o rym tywyll
120g o siocled chwerw (70% o goco)
200g o hufen curo

Ar gyfer y saws

10 mefus ffres - wedi'u chwarteru
20ml o ddwr
20g o siwgr mân
1 llwy de o sudd lemwn

I weini

Powdwr coco, dail mintys ffres ac ychydig o fefus wedi'u hanneru.

Hefyd, bydd angen dau dun cacen siâp calon a darn o gerdyn wedi'i orchuddio â ffoil i fynd o dan y tuniau
DULL
Toddi'r siocled mewn powlen dros sosban o ddwr cynnes a gadael i oeri ychydig.

Agor y gacen ‘swiss rôl' allan a thorri siâp allan i wneud gwaelod i'r darten.

Mewn sosban fach, toddi'r siwgr gyda'r dwr, rym a llwy de o sudd lemwn.

Mewn powlen, curo'r hufen ac ychwanegu'r siocled sydd eisoes wedi'i doddi.

Rhoi'r gymysgedd rym ar y gacen cyn rhoi'r gymysgedd hufen a siocled ar y top. Rhoi'r darten yn yr oergell am tua 2 awr.

Yn y cyfamser, gwneud saws llyfn trwy gymysgu'r mefus, dwr, siwgr mân a'r sudd lemwn mewn peiriant cymysgu.

I weini

Rhoi clwtyn poeth o amgylch y tun, mae hyn yn ei gwneud yn haws i dynnu'r gacen yn rhydd. Eu rhoi ar blât, addurno gyda saws mefus, powdwr coco, dail mintys a mefus ffres


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY