dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
EOG GYDA CHRWST PERLYSIAU

EOG GYDA CHRWST PERLYSIAU

CATEGORI : PYSGOD A BWYD MÔR

DIGON I : 4

CYNHWYSION

4 ffiled o eog - wedi'u glanhau a'r esgyrn wedi eu tynnu
2 llwy fwrdd o olew yr olewydd
1 winwnsyn - wedi torri'n fân
1 clof o arlleg - wedi torri'n fân
16 o ddail saets - wedi torri'n fân
1 llwy de o rhosmari ffres
50g o gimwch
Croen lemwn a sudd hanner y lemwn
2 llond llaw o friwsion bara
Halen a phupur du

Y saws
1 llwy fwrdd olew yr olewydd
½ winwnsyn - wedi torri'n fân
1 clof o arlleg - wedi torri'n fân
6 o fadarch bach (button) - wedi'u sleisio'n fân
100ml o win gwyn
100ml o stoc pysgod
1 llwy de o hadau mwstard
2 domato - tynnu'r croen, hadau a thorri'n fân
1 llwy fwrdd o bersli ffres - wedi torri'n fân
3 cenhinen - wedi'u haneru ac yn hanner eto ar eu hyd
50g o fenyn
50ml o stoc llysiau
DULL
Cynhesu'r olew mewn padell ffrio a choginio'r winwns, garlleg, saets a'r rhosmari nes yn feddal ac yna eu gadael i oeri.
Mewn powlen fawr, cymysgu'r cimwch, lemwn,briwsion bara a'r halen a phupur cyn ychwanegu'r gymysgedd winwns.

Iro tun pobi a gosod yr eog, (croen i lawr) ar y tun. Rhannu'r gymysgedd rhwng y darnau o eog, gan orchuddio'r eog â chrwst, eu pobi mewn ffwrn wedi cynhesu i wres o 180' am 10 munud.

Y Saws
Cynhesu'r olew mewn padell a choginio'r garlleg, winwns a'r madarch nes yn feddal ac yn frown golau eu lliw. Ychwanegu'r gwin a'i leihau i hanner cyn rhoi'r stoc am ar ei ben, a'r hadau mwstard a choginio am tua 2 funud. Cyn gweini, ychwanegu'r tomatos a'r persli.

Coginio'r genhinen mewn ychydig o stoc a menyn am tua 2 - 3 munud.
Gweini'r eog ar wely o gennin a llwyed a saws.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY