dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
CREGYN GLEISION

CREGYN GLEISION

CATEGORI : PYSGOD A BWYD MÔR

DIGON I : 2

CYNHWYSION

2kg/4 pwys o gregyn gleision - wedi'u glanhau'n drwyadl
25g o fenyn
1 clof o arlleg - wedi torri'n fân
3 shibwnsyn - wedi torri'n fân
½ llwy de o oregano sych
1 gwydred o win gwyn sych
1 gwydred o ddwr
4 llwy fwrdd o bersli ffres - wedi torri'n fân
DULL
Coginio'r cregyn gleision mewn sosban fawr a chaead arni, nes bydd y cregyn yn agor (tua 5mun).

Eu hidlo a chadw'r stoc i'r naill ochr.

Mewn sosban fawr, toddi'r menyn a meddalu'r garlleg, shibwns a'r oregano am tua dwy funud.

Ychwanegu'r stoc, y gwin a'r gwydred o ddwr, cymysgu'n dda. Yn olaf, rhoi'r cregyn gleision yn ôl yn y sosban, berwi dan gaead am 5 munud.

Gweini mewn powlen a dyrned o bersli ffres.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY