dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
PLAA RAAD PHRIK (PYSGODYN WEDI'I FFRIO GYDA SAWS CHILLI)

PLAA RAAD PHRIK (PYSGODYN WEDI'I FFRIO GYDA SAWS CHILLI)

CATEGORI : PYSGOD A BWYD MÔR

DIGON I : 4 - 6

CYNHWYSION

8 clôf o arlleg
5 chilli melyn ffres
1kg/2¼ pwys o 'perch' neu 'sea bass' wedi eu glanhau
tua 675ml/24 owns hylif o olew cnau mwnci (peanut oil) neu olew corn (ar gyfer y ffrio)
½ llwy de o halen a phupur gwyn
blawd plaen
100ml/4 owns hylif o stoc cyw iar
2 chilli coch ffres - wedi eu chwarteru ar eu hyd
1 llwy fwrdd o sudd tamarind neu finegr
2 llwy de o siwgr
1 llwy de o nam pla (saws pysgod)
15g/½ owns o ddail basil melys - wedi'u ffrio mewn olew am 1 munud tan yn grinsych
DULL
Malwch y garlleg a'r chilli gyda'i gilydd yn ysgafn gyda phestl a mortar neu mewn cymysgydd (blender). Gwnewch doriadau yn y pysgod ar naill ochr (5-6 toriad, taenwch binsied o halen a phupur dros y pysgodyn a thaenwch â blawd (mae'r toriadau'n creu pocedi bychain ar gyfer y saws fydd yn cael ei daenu cyn iddo gael ei weini). Cynheswch yr olew i wres o 350F/180C mewn padell neu wok a ffriwch y pysgodyn nes ei fod yn grisb ond yn dyner y tu mewn am tua 7-10 munud. Cymerwch y pysgodyn oddi ar y gwres a draeniwch a'i roi ar blât yn barod i'w weini. Cymerwch yr holl olew allan, heblaw am tua 50 ml/2 owns hylif. Coginiwch y gymysgedd garlleg a chili a gweddill y cynhwysion (heblaw am y basil) a berwch ar wres isel am tua 5 munud nes ei fod yn dechrau tewhau. Arllwyswch dros y pysgodyn a thaenwch y basil ffres drosto cyn ei weini. Gweinwch â reis


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY