dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
BRECHDAN STEC AR FARA CYFLAWN A SAWS PESTO FFRES

BRECHDAN STEC AR FARA CYFLAWN A SAWS PESTO FFRES

CATEGORI : CYRSIAU CYNTAF, PRYDAU AR YR OCHR A BYRBRYDAU

DIGON I : 2

CYNHWYSION

1 torth bach o fara cyflawn organic
2 ffiled o gig eidion, curo nes yn denau

Y Saws Pesto
1 bwnsied o basil ffres - wedi torri'n fras
50g o gnau pîn - wedi eu tostio
1 clôf o arlleg - wedi torri'n fras
½ llwy de o sudd lemwn
50g o gaws parmesan - wedi ei gratio
Pupur du
Olew olewydd
2 domato mawr - wedi sleisio
Ychydig o ddail rocket
DULL
Torri'r bara ar ei hyd fel bod 3 rhan i'r dorth a thostio'r haenen ganol.Curo'r ffiledau rhwng dau ddarn o clingfilm nes eu bod tua 1 - 2 cm o drwch.
Ffrio'r ffiledau am ychydig funudau ar bob ochr.Rhoi'r basil, cnau pîn, garlleg, sudd lemwn a'r caws parmesan i mewn i beiriant cymysgu -gwneud yn siwr fod yr holl gynhwysion wedi cymysgu'n dda.

Ychwanegu olew olewydd - digon i'w wneud i edrych fel past, yna ychwanegu pupur du i'w flasu.Ar haenen waelod y bara, gosod y tomatos a'r dail rocket.Gweini - haenen waelod - tomatos + dail rocket.Gosod y ffiled o gig eidion ar yr haenen ganol sydd wedi ei thostio Rhoi'r pesto ar yr haenen dop.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY