dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
BRECHDAN BLASAU THAI

BRECHDAN BLASAU THAI

CATEGORI : CYRSIAU CYNTAF, PRYDAU AR YR OCHR A BYRBRYDAU

DIGON I : 1

CYNHWYSION

Y bara
230ml o laeth coconyt
500g o flawd gwyn cryf
2 llwy de o halen
50g o fenyn
1 ½ llwy de o furum
2 llwy de o sigwr

Y Llenwad
4 o gorgimychiaid mawr, gyda'r cregyn wedi eu tynnu
1 moronen - torri'n fân
Bresych gwyn - torri'n fân
½ winwnsyn coch - torri'n fân
1 clôf o arlleg - torri'n fân
1 tomato - torri'n 8 darn
½ chilli - torri'n fân a thynnu'r hadau
½" sinsir - torri'n fân a thynnu'r croen
Ychydig o goriander
Sudd o 1 leim
2 lwy de o fêl
1 llwy fwrdd o Nam Pla (saws pysgod)
DULL
Y Bara
Cymysgu'r hylif â'r blawd a'i weithio'n dda i greu toes. Ar ôl gorffen tylino'r toes, arllwys ychydig o olew mewn tun pobi yna gorchuddio'r toes â chlingfilm wed'i iro ag olew. Cadw mewn lle twym er mwyn iddo godi a dwblu mewn maint cyn ei bobi.

Y Llenwad
I gael y blasau thai allan, cleisio'r moron, bresych, winwns, garlleg a'r sinsir gyda phestl a mortar. Ychwanegu'r tomatos, coriander ffres yna'r sudd leim, mêl, nam pla (saws pysgod) a pwno'r cyfan i gleisio'r llysiau cadarn.

Rhoi'r bara yn y ffwrn ar dymheredd o 220C am tua 30 munud.

Ffrio'r corgimychiaid ar y ddwy ochr am ddwy funud.

Torri'r bara a rhoi'r llenwad ar dop sleisen o fara yna ychydig o gorgimychiaid ar y top.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY