DULL
Torri'r sleisys i 4 triongl. Rhoi'r siocled, hufen chwipio, gwirod, sigwr, menyn, sinamon mewn bowlen dros sosban o ddwr sy'n mud ferwi. Bod yn ofalus nad yw'r fowlen yn cyffwrdd y dwr. Disgwyl i'r cyfan doddi.Tynnu'r cyfan oddi ar y gwres a chymysgu'r cyfan yn dda.
Powlen lan i chwisgio'r wyau. Yna rhoi'r gymysgedd siocled at y wyau a'u cymysgu'n dda. Mewn tun rhoi haenen 1cm/1/2 modfedd o'r gymysgedd siocled yn y gwaelod ac yna rhoi hanner y trionglau bara dros y siocled mewn rhesi sy'n gorgyffwrdd. Yna tywallt hanner y gymysgedd siocled dros y bara mor hafal a phosib, yna gweddill y bara dros hwn.
Gorffen y cyfan gyda haenen o'r gymysgedd siocled. Defnyddio fforc i wasgu'r bara i lawr yn ysgafn fel bo'r cyfan yn cael ei orchuddio gyda'r siocled. Gorchuddio'r tun gyda clingflim a'i adael ar dymheredd stafell am 2 awr cyn ei roi yn yr oergell am o leiaf 24 awr - 48 os yn bosib cyn ei goginio.
COGINIO
Cynhesu'r popty at wres o 180c/350f/nwy 4.Tynnu'r clingflim a phobi'r pwdin ar silff uchel am 30-35 munud. Bydd top y pwdin yn greinsiog a'r tu mewn yn feddal. Gadael i sefyll am 10 munud cyn ei weini gyda hufen dwbl.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley