DULL
Cymysgu'r cig oen, mint, passata tomato, wy, briwsion a'r halen â'i gilydd mewn bowlen.
Rholio'r gymysgedd ar ffoil i tua 8-12 modfedd o hyd.
Tywallt ychydig o olew i sosban, ychwanegu'r winwns, helogan, cennin a garlleg a ffrio'r cyfan am hanner munud.
Tynnu'r sosban oddi ar y gwres ac ychwanegu'r moron.
Rhoi'r gymysgedd ar dop y cig oen a rholio'r gymysgedd toes o'u hamgylch.
Rhoi yn y popty ar wres o 150°c am 40 munud.
Gweini gyda thatws, cennin a saws tomato.
Rhoddwyd y rysait yma i Dudley gan Glenys Rees o Sir Gaerfyrddin.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley