dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
GOLWYTH CYW IÂR GYDA RATATOUILLE

GOLWYTH CYW IÂR GYDA RATATOUILLE

CATEGORI : POWLTRI A GÊM

DIGON I : 1

CYNHWYSION

Cam 1
1 brest cyw iâr, wedi'i bwno â mallet cig
Pupur a halen

Cam 2
Olew
3 llwy fwrdd o flawd plaen, wedi'i roi ar blât a pupur a halen wedi'u hychwanegu
1 clôf o arlleg, wedi torri'n fân
1 winwnsyn, wedi torri'n fân
Piwrî tomato
Gwin gwyn
8 tomato, wedi eu torri'n giwbiau
12 deilen o saets, wedi eu torri
Caws Parmesan, wedi gratio
Siwgr (opsiynol)

Cam 3
Hanner winwnsyn coch, wedi torri'n fras
1 corbwmpen (courgette), hadau wedi'u tynnu ac wedi ei dorri'n fras
Hanner pupur coch, wedi torri'n fras
Hanner pupur melyn , wedi torri'n fras
8 o ddail basil, cadw'n gyfan
Olew
Pesto
DULL
Cam 1
Cynhesu'r olew mewn ffreipan.
Rhoi'r golwythen mewn blawd a ffrio nes ei fod yn frown golau. Cadw'r cig yn gynnes.

Cam 2
Cynhesu'r olewn mewn sosban. Ffrio'r winwns a'r garlleg nes eu bod yn feddal. Rhoi'r piwrî tomato mewn sosban a choginio am 5 munud, gan droi'r gymysgedd. Ychwanegu ychydig o'r gwin a lleihau'r hylif. Rhoi'r tomatos a'r dail saets mewn sosban a rhoi caead ar ei ben. Coginio ar wres uchel am 20 munud i leihau'r saws ychydig.

Ychwanegu'r caws at y saws. Ychwanegu'r siwgr os oes angen. Trosglwyddo'r saws i sosban glan a chadw'r gymysgedd yn gynnes.

Cam 3
Cynhesu'r olew mewn sosban a ffrio'r llysiau am ddwy funud. Rhoi 4 llwy fwrdd o'r saws tomato dros y top a mud ferwi am 2 funud ychwanegol, cyn ychwanegu'r pesto.

Rhoi'r cyw iâr yng nghanol plât a rhoi llwyed o'r saws ar y top. Gweini â thatws, cennin a'r saws tomato.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY