dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
NAM PHRIK PLA TOO (SAWS SBEISLYD A MECRYLL)

NAM PHRIK PLA TOO (SAWS SBEISLYD A MECRYLL)

CATEGORI : PYSGOD A BWYD MÔR

DIGON I : 6

CYNHWYSION

50ml/2owns hylif o olew peanut neu corn
3 x100g/4 owns o facrell - wedi eu glanhau neu 300g/12 owns o ffiledi o facrell diasgwrn
1½ llwy de o halen
½ llwy fwrdd o bast shrimp
2 llwy fwrdd o shrimps sych wedi eu powndio'n fân
1 llwy fwrdd o arlleg wedi eu sleisio
2 blanhigyn wy bach gwyrdd wedi eu plicio
15 chilli bach ffres gwyrdd neu goch
6 planhigyn wy bach neu bys ffres
2 llwy fwrdd o sudd lemwn
1 llwy fwrdd o nam pla (saws pysgod)
½ llwy fwrdd o siwgr palmwydden (palm sugar)
1 chilli mawr coch ffres - wedi ei sleisio i gylchoedd bychain
DULL
Rhwbiwch y macrell y tu mewn ac allan gyda halen a gadewch mewn lle oer am tua 1 awr. Ffriwch y pâst shrimp heb olew mewn ffoil dros wres uchel am 5 munud (neu rhostiwch mewn popty ar wres o 350F/180C/nwy 4 am 8 munud). Malwch y pâst shrimp, y shrimp sych, garlleg a'r planhigyn wy (aubergine) gyda'i gilydd â phestl a mortar neu mewn cymysgydd (blender). Ychwanegwch y chillis bach a'u malu'n ysgafn, ac yna cymysgwch weddill y cynhwysion i mewn heblaw am y sleisys chili fydd yn cael eu defnyddio i weini'r pryd. Cynheswch yr olew mewn padell neu wok dros wres cymedrol a ffriwch y pysgodyn am 6-8 munud ar y naill ochr - dylai'r pysgodyn fod yn dyner ac yn wyn yn y canol. Gweinwch gyda llysiau ffres megis bresych wedi eu berwi'n ysgafn a string beans.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY