dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
LASAGNE I 100!

LASAGNE I 100!

CATEGORI : CIG AG OFFAL

DIGON I : 100

CYNHWYSION

8 Ib o friwgig cig eidion
3 Ib o foron - wedi eu gratio
4 Ib o winwns
4 peint o stoc
12 oz o biwrî tomato
Halen a phupur
Oregano
3 Ib o domatos ffres

Saws Caws
1 Ib o fargarîn (poly-unsaturated)
1 Ib o flawd
8 peint o laeth
3 Ib o gaws
3 Ib o haenau lasagne - wedi eu coginio o flaen llaw
DULL
Ffrio'r winwns nes eu bod wedi eu brownio. Ychwanegu'r cig a ffrio'r cyfan.

Ychwanegu'r stoc, moron, piwrî tomato, tomatos ffres, halen a phupur a choginio'r cyfan nes ei fod yn lleihau ychydig.

Y Saws

Drwy ddefnyddio'r dull Roux, gwneud y saws gyda'r margarîn, blawd, llaeth a 2/3 o'r caws.

Gosod haenau o gig, lasagne a saws caws am yn ail mewn tun pobi dwfn gan orffen â'r saws. Taenu gweddill y caws ar ben y cyfan.

Coginio nes ei fod yn brownio ychydig.


Ryseit Cyngor Sir Gaerfyrddin i Ysgolion Cynradd Sir Gâr


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY