DULL
Ffrio'r briwgig mewn ffreipan dros wres uchel nes bod y cig yn brownio. Ychwanegu pupur a halen.
Ychwanegu'r moron a ffrio eto am ychydig. Ychwanegu'r winwns a choginio nes bod y winwns yn meddalu dipyn bach. Cael gwared o ychydig o'r braster gan adael dipyn i wneud roux. Troi'r gwres i lawr.
Ychwanegu'r blawd gan ei gymysgu'n gyson i wneud past llyfn. Gwneud yn siwr nad yw'r roux yn glynu i'r ffreipan. Ychwanegu'r piwrî tomato a choginio am 3-4 munud.
Ychwanegu'r stoc bob yn dipyn gan ei droi a dod a'r cyfan i'r berw cyn ychwanegu mwy o'r stoc. Ar ôl ychwanegu'r stoc i gyd, dod a'r cyfan i'r berw yna lleihau'r gwres a mud ferwi am tua 40 munud.
Yn y cyfamser, paratoi y stwnsh tatws. Berwi'r tatws â'r pannas nes eu bod yn feddal a stwnshio'r cyfan. Ychwanegu pupur a halen ac ychydig o'r menyn.
Ar ôl i'r stwnsh oeri ychydig, curo'r melynwy i fewn i'r stwnsh nes bod y gymysgedd yn sgleinio.
Trosglwyddo'r cynhwysion sydd wedi bod yn mud ferwi am 40 munud i ddysgl pobi. Peipio'r stwnsh ar ben y cyfan.
Rhoi o dan gril cynnes nes bod y tatws wedi brownio ychydig.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley