dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
TORTH HAM

TORTH HAM

CATEGORI : CIG AG OFFAL

DIGON I : 6

CYNHWYSION

10g o fenyn
25 o friwsion bara
1 winwnsyn mawr - wedi torri'n fân
25g o fenyn
1 Ib o gig moch - wedi'i ferwi, tynnu'r cig oddi ar yr asgwrn
1 llwy de o berlysiau
50g o friwsion bara gwyn
¼ pecyn o stoc neu o'r cig wedi'i ferwi
½ llwy de o nytmeg
1 wy
10g o friwsion bara brown
DULL
Iro tun bara 1 Ib gyda'r menyn. Gwasgaru'r briwsion bara brown o gwmpas ochrau a gwaelod y tun. Ffrio'r winwns mewn menyn.

Rhoi'r cig mewn prosesydd bwyd a'i dorri'n fân. Ychwanegu'r perlysiau, briwsion bara gwyn, winwns, stoc bacwn, nytmeg a'r wy a chymysgu'r cyfan yn dda.

Rhoi y gymysgedd yn y tun a'i orchuddio â ffoil. Rhoi yn y popty am tua awr ar dymheredd o 170C.

Troi'r dorth allan o'r tun a gorchuddio'r dorth â'r briwsion bara sy'n weddill. Rhoi y dorth o dan y gril nes i'r briwsion bara ddechrau brownio.

Gweini â thatws a llysiau neu salad.


Rysait gan Winnie James.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY