dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
ASPARAGWS RHOST GYDA CHAWS PARMESAN

ASPARAGWS RHOST GYDA CHAWS PARMESAN

CATEGORI : CYRSIAU CYNTAF, PRYDAU AR YR OCHR A BYRBRYDAU

DIGON I : 4

CYNHWYSION

16 coes asparagws - torri gwaelod yr asparagws.
4 sleisen o gig mochyn streaky
1 sbrigyn o rhosmari
Olew olewydd
Pupur a halen
Darn bach o gaws Parmesan
DULL
I dorri gwaelod yr asparagws, dal mewn coesyn â llaw a rhedeg y gyllell drosto nes bod y gyllell yn torri drwyddo'n weddol hawdd (tua modfedd o'r gwaelod). Mudferwi'r asparagws mewn dwr berwedig am tua 2-3 munud nes eu bod yn feddal ond ddim yn rhy feddal. Trosglwyddo'r asparagws wedyn i ddwr oer i'w harbed rhag gor-goginio.

Sychu'r asparagws ar bapur cegin a rholio sleisen o facwn yr un o amgylch 4 o'r coes asparagws.

Rhoi'r asparagws ar dun pobi a thywallt ychydig o olew olewydd, pupur a halen a rhosmari dros y cyfan.

Rhoi'r asparagws yn y ffwrn am tua 7 munud ar wres o 190C neu o dan y gril am tua 3 munud (bydd angen eu troi unwaith os yn eu rhoi o dan y gril).

Gweini'r asparagws â darnau bach o parmesan.


Rysait Elin Williams


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY