dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
MAELGI (MONKFISH) A HALLOUMI GYDA MENYN CHILLI A BOK CHOI

MAELGI (MONKFISH) A HALLOUMI GYDA MENYN CHILLI A BOK CHOI

CATEGORI : PYSGOD A BWYD MÔR

DIGON I : 4

CYNHWYSION

5 fl oz o win gwyn
2 shibwnsyn mawr
1 llwy fwrdd o arlleg
2 llwy fwrdd o basil ffres
1 llwy de o chillis sych
½ chilli ffres, wedi torri'n fân
1 llwy fwrdd o saws chilli melys
1/2 sudd leim
1/2 llwy de o halen y môr
4 oz o fenyn
1 Ib o faelgi (monkfish)
1/2 pecyn o gaws Halloumi
Pinsied o halen
Pinsied o bupur
1 pecyn o bok choi (mae 3 mewn pecyn fel arfer)
1 clof o arlleg
1 modfedd o sinsir, wedi torri'n stribedi
DULL
Berwi'r gwin a'r shibwns mewn sosban a'u lleihau nes bod y cynhwysion wedi lleihau i hanner ei faint gwreiddiol.

Ychwanegu'r cynhwysion eraill i gyd heblaw y menyn.

Tynnu'r sosban oddi ar y gwres ac ychwanegu'r menyn. Modd gweini'r menyn yn boeth neu ei roi yn yr oergell a'i oeri.

Cynhesu'r gril i wres uchel ac iro dau dun pobi.

Gosod y maelgi ‘ar halloumi yn y tuniau ac ychwanegu halen a phupur dros y cyfan.

Rhoi llwy fwrdd o'r menyn chilli dros y pysgod a'r caws a'u grilio am tua 10 munud a'r halloumi am tua 3-4 munud nes eu bod yn troi'n eurfrown.

Stemio'r bok choi gyda'r garlleg a'r sinsir ffres am tua 2 funud.

Gweini'r maelgi a'r halloumi ar blât gan dywallt y sudd o'r tun pobi drostynt ac ychydig o'r menyn chilli sydd dros ben (os oes peth ac os oes angen). Rhoi'r bok choi ar yr ochr.

Gweini â bara chiapatta wedi ei grilio. Rhoi ychydig o olew olewydd dros y bara.

*Tip ychwanegol - rhoi ambell smotyn o'r saws chilli melys ar ochr y plât i ychwanegu mwy o liw wrth ei weini.

Rysait Elin Williams


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY