DULL
Rhoi'r holl gynhwysion, heblaw am y stout, mewn powlen fawr a chymysgu'n dda. Ychwanegu ychydig o stowt fel bod angen a chadw gwedill o'r botel/can nes y diwrnod canlynol.
Wedi cymysgu'n dda, gorchuddio'r bowlen â chadach neu ffoil a'i adael dros nos. Y diwrnod canlynol - os yw'r gymysgedd yn edrych yn sych - ychwanegu mwy o stout fel bod angen. Trosglwyddo'r gymysgedd o'r fowlen i fasn fawr (neu ddau fasn bach), gorchuddio â ffoil a stemio am 8 awr. Gellir gwneud hyn ddyddiau/wythnosau o flaen llaw.
Ar ddiwrnod Nadolig - stemio am 1.5 - 2 awr.
Rysait gan Mary Davies
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley