DULL
Gwneud toriadau ar hyd ochr y rib cig eidion a stwffio wystrysen ac ychydig o'r gymysgedd winwns i bod toriad. Cau'r toriadau fel na ellir gweld y wystrys.
Gallir rhwbio croen y cig eidion gydag ychydig o fwstard sych wedi ei gymysgu ag un llwy fwrdd o halen ac ychydig o bupur du er mwyn i'r croen fod yn fwy crisp.
Coginio'r cig am 20 munud ar dymheredd o 240C ac yna troi'r gwres i lawr i 190C a choginio am 15 munud y pwys os ydych eisiau i'r cig fod yn rare' neu ar gyfer rare-medium' yr un faint o amser ond 15 munud ychwanegol. Ar gyfer cig wedi ei rostio'n dda, ychwanegwch 30 munud.
Pan fydd y cig yn barod, tynnu o'r ffwrn a'i adael i orffwys am o leiaf hanner awr i awr. Gorchuddio â ffoil i gadw'r gwres i mewn.
*Cadw'r sudd yn y tun i'w ddefnyddio yn y saws.
Y saws betys:
Plicio'r betys ffres neu dynnu y betys o'r pecyn a'u torri'n sleisys. Tip - gwisgwch fenyg i arbed eich dwylo rhag lliwio!
Rhoi'r betys mewn sosban ac ychwanegu'r holl gynhwysion eraill.
Dod a'r cyfan i'r berw ac yna mudferwi nes bod y betys yn dyner. 4 munud o goginio ar gyfer betys sydd eisoes wedi eu coginio. Mae amser coginio rhai ffres yn dibynnu ar y math o fetys - gall rhai gymryd 15 munud ac eraill 40 munud! Mae'n bwysig felly cadw peth o'r gwin yn sbar rhag ofn bod angen ychwanegu mwy o hylif at y betys.
Pan fydd y betys yn barod, tynnu o'r hylif a'u cadw'n gynnes. Rhidyllu'r hylif.
Bydd angen defnyddio'r tun cig i orffen y saws. Os oes gormod o saim yn y tun, tynnu peth ohono allan ond ei gadw rhag ofn.
I orffen y saws betys:
Rhoi y tun cig dros wres cymedrol a ffrio'r winwnsyn coch a'r garlleg am tua 5-6 munud. Ychwanegu'r perlysiau a choginio am tua 2 funud.
Ychwanegu saws y betys i'r tun a berwi am tua 2 funud. Gellir rhoi y betys nôl yn y saws neu weini'r betys ar wahan.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley