dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
SGLODION TATWS MELYS

SGLODION TATWS MELYS

CATEGORI : CYRSIAU CYNTAF, PRYDAU AR YR OCHR A BYRBRYDAU

DIGON I : 4

CYNHWYSION

4 o datws melys, wedi eu plicio a'u torri'n ddarnau sglodion gweddol drwchus.
Olew llysiau
Halen y môr
DULL
Rhoi'r sglodion mewn dwr berw a'u mudferwi nes eu bod yn weddol feddal ond ddim yn slwtsh. Draenio ar bapur cegin.

Cynhesu'r olew mewn sosban a ffrio'r sglodion am 3-4 munud.

Draenio ar bapur cegin a'u gweini ag ychydig o halen y môr.

TIP
Pan fo'r tatws yn eu tymor, glanhau'r tatws a'u berwi am tua munud neu ddwy. Tynnu oddi ar y gwres a'u rhoi mewn dwr oer yn syth. Ar ôl iddynt oeri, trosglwyddo nhw i focs plastig a'u gosod yn y rhewgell.

Diwrnod Nadolig - eu berwi yn syth o'r rhewgell.


Rysait Elin Williams


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY